English
Adroddiad Blynyddol 2019/20
English

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019/20<

Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau
—cynllun gweithredu i Gymru

Uchafbwyntiau'r rhaglen hyd yn hyn

1,240

Rydym ni wedi cefnogi 1240 ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth (83% o ysgolion Cymru)

134,000
Dros 134,000 cyfle i ddisgyblion gymryd rhan yn y rhaglen

4,600
Dros 4,600 cyfle i athrawon ymgysylltu â dysgu proffesiynol drwy gynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol a gweithgarwch y Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

Rhagair

“Mae llwyddiannau'r rhaglen bum mlynedd wreiddiol yn sylweddol. Wedi'i sefydlu ar bartneriaeth gaith agos rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Dysgu creadigol trwy'r celfyddydau wedi trawsnewid dysgu ac addysgu yng Nghymru trwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg.”

Rwy’n falch o gyflwyno adroddiad 2019/20 Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau, sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gyfnod ymestyn y rhaglen a ddechreuodd ym Mawrth.

Dros bum mlynedd y rhaglen bu ei llwyddiannau’n sylweddol. Mae wedi’i seilio ar bartneriaeth agos rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae wedi trawsnewid dysgu yng Nghymru drwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth wraidd addysg. Gyda'i dulliau arloesol, mae'r rhaglen wedi denu cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol, gyda 1,240 ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen. Dyna 83% o ysgolion Cymru.

Yn Awst 2020, cynigiwyd dros 134,000 cyfle i ddisgyblion gymryd rhan a thua 4,600 cyfle i athrawon wella eu dysgu proffesiynol. Mae'r ffigyrau yn dangos pwysigrwydd y rhaglen.

Mae’r pandemig wedi effeithio ar bawb ac mae ein hysgolion wedi codi i ateb yr her. Mae arloesedd y rhaglen wedi ein helpu i addasu fynd ar-lein a pharhau â dysgu felly. Mae’n codi calon i weld dosbarthiadau meistr yr Ysgolion Creadigol Arweiniol a’r Celfyddydau Mynegiannol ar-lein ac ymweliadau rhithiol Ewch i Weld â theatrau, orielau, amgueddfeydd a lleoliadau celfyddydol eraill.

Wrth wynebu’r dyfodol, hoffwn ailadrodd y cyfraniad pwysig y mae dysgu creadigol yn ei wneud i gefnogi ysgolion ac athrawon i ymbaratoi at y Cwricwlwm newydd i Gymru, 2022.

Rydym ni wedi gweld sut mae Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cefnogi newid ysgol gyfan, gan fabwysiadu ffordd o weithio ar draws cymuned yr ysgol. Mae partneriaethau creadigol yn gymorth i wella cyrhaeddiad disgyblion ac ailgynnau hyder athrawon.

Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi creadigrwydd wrth ei wraidd ac yn pennu’r nod o ddatblygu dinasyddion cyflawn sy'n cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd a gwaith. Mae creadigrwydd yn cefnogi hyn drwy helpu pobl ifanc, o bob cefndir, i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau.

Bydd effaith dysgu creadigol wrth wreiddio creadigrwydd yn dod â manteision parhaol i'n disgyblion ar draws y cwricwlwm newydd..

— Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

“Drwy ddod ag arbenigwyr creadigol i mewn i’n hysgolion, mae modd darganfod unrhyw broblemau a bathu atebion newydd a chreadigol.”
Nick Capaldi, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru

Yr Effaith

Parhau i godi proffil rhyngwladol ein rhaglen Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau

Cyhoeddi ein pedwerydd adroddiad gwerthuso annibynnol

Cefnogi'r gwaith o hyrwyddo gyrfaoedd y diwydiant creadigol yn SkillsCymru 2019

Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol

Datblygu rhwydwaith ar gyfer pob Ysgol Greadigol Arweiniol sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun ar y Parth Dysgu Creadigol i annog rhannu’r arfer gorau.

Archwilio cyfleoedd gyda'r 4 Consortiwm Addysg Rhanbarthol i gefnogi ysgolion ymhellach wrth ymbaratoi at Gwricwlwm i Gymru 2022.

45

Cefnogi'r 45 ysgol sydd wedi ymuno â'r cynllun drwy'r maes datblygu Ysgol i Ysgol.

Y Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

40

40 digwyddiad Hyrwyddwyr y Celfyddydau drwy'r flwyddyn

60

Darparu 60 cyfle Datblygiad Proffesiynol Parhaus i athrawon ac artistiaid

Lansio Plwg i gefnogi brocera cysylltiadau rhwng athrawon ac artistiaid

Profi'r Celfyddydau

200
Rhoi 200 grant Ewch i Weld

Cefnogi'r grantiau Cydweithio Creadigol sy'n cael eu cynnig yn y flwyddyn academaidd

Cawsom ein gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad rhannu rhyngwladol a edrychai ar sut roedd rhaglenni dysgu creadigol o bob cwr o'r byd yn ymateb i’r coronafeirws. Ymhlith y gwledydd presennol roedd Awstralia, India, Pacistan, Denmarc a Hwngari.

Ei gyhoeddi ar 4 Tachwedd 2020

Ymgysylltu â disgyblion yn SkillsCymru 2019 (Caerdydd a Llandudno) a Llwybrau Creadigol (Caerdydd)

Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol

Creu Grŵp Rhwydweithio Hwb ar y parth dysgu creadigol i gefnogi rhwydweithio athrawon

Cefnogi 57 ysgol ychwanegol drwy Ddatblygu Arweinwyr Creadigol i Ysgolion a Chynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Ar-lein yn ystod y coronafeirws.

Lansio Prosiect Datblygu Arweinwyr Creadigol gyda’r consortia. Cefnogi 44 ysgol ychwanegol drwy'r maes yma.

Y Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

63

Datblygu 63 perthynas rhwng Hyrwyddwyr y Celfyddydau ac ysgolion

57

Creu 57 cyfle Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn y flwyddyn academaidd

Lansio Plwg.cymru yn Rhagfyr 2019

Profi'r Celfyddydau

155
Rhoi 155 grant Ewch i Weld (40 wedi'u tynnu'n ôl oherwydd y coronafeirws)

Prosiectau wedi’u gohirio yn y cyfnod cloi

“Er lles cymdeithas, ac er ei ffyniant, mae angen gwahanol fathau o ddisgyblion arnom ac mae dysgu creadigol drwy'r celfyddydau yn eu datblygu. Y newyddion gwych yw ei fod yn gweithio.”
Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru

Ystadegau

Nifer yr ysgolion sy'n ymwneud â'r rhaglen yn ôl math

1004
81% o ysgolion cynradd

36
88% o ysgolion arbennig

197
95% o ysgolion uwchradd
(gan gynnwys 3-16/3-19)

332
85% o ysgolion Cymraeg

64
97% o ysgolion dwyieithog (A, B, C) neu ffrwd ddeuol

Map

Pob rhanbarth

123
ysgol wedi cymeryd ran yng nghynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol
264
ysgol wedi manteisio ar gynigion Dysgu Proffesiynol a Hyrwyddwyr y Celfyddydau
(Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg)
763
ymgysylltiad gan athrawon â chynigion dysgu proffesiynol
(Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg)
155
grant Ewch i Weld
(40 wedi'u tynnu'n ôl oherwydd y coronafeirws)

Cyfleoedd i ddisgyblion yn ôl maes

Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol
6,360
Ewch i Weld
9,433
Coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf
-
Cydweithio Creadigol
2,812
Cyfanswm
18,605

Digwyddiadau y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

763
ymgysylltiad gan athrawon â Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

77
ymgysylltiad gan artistiaid â Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

Nifer y mynychiadau i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

906

Cyfanswm

214

A2 Clymu

160

Rhwydwaith Celfyddydau as Addysg De Ddwyrain Cymru

211

NAWR

321

Edau

Nifer sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

57

Cyfanswm

14

A2 Clymu

11

Rhwydwaith Celfyddydau as Addysg De Ddwyrain Cymru

16

NAWR

16

Edau

Nifer y cysylltiadau wedi’u brocera rhwng Hyrwyddwyr y Celfyddydau ac ysgolion

60

Cyfanswm

16

A2 Clymu

20

Rhwydwaith Celfyddydau as Addysg De Ddwyrain Cymru

7

NAWR

20

Edau

Pob rhanbarth

658
ysgol wedi cymeryd ran yng nghynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol
815
ysgol wedi manteisio ar gynigion Dysgu Proffesiynol a Hyrwyddwyr y Celfyddydau
(Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg)
3091
ymgysylltiad gan athrawon â chynigion dysgu proffesiynol
(Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg)
867
grant Ewch i Weld
(40 wedi'u tynnu'n ôl oherwydd y coronafeirws)

Nifer yr ysgolion sy'n ymwneud â'r rhaglen yn ôl math

Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol
39,720
Ewch i Weld
60,998
Coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf
4,134
Cydweithio Creadigol
29,369
Cyfanswm
134,221

Digwyddiadau y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

3091
ymgysylltiad gan athrawon â Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

687
ymgysylltiad gan artistiaid â Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

Nifer y mynychiadau i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

4245

Cyfanswm

887

A2 Clymu

919

Rhwydwaith Celfyddydau as Addysg De Ddwyrain Cymru

1267

NAWR

1172

Edau

Nifer sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

364

Cyfanswm

83

A2 Clymu

100

Rhwydwaith Celfyddydau as Addysg De Ddwyrain Cymru

91

NAWR

90

Edau

Nifer y cysylltiadau wedi’u brocera rhwng Hyrwyddwyr y Celfyddydau ac ysgolion

159

Cyfanswm

51

A2 Clymu

39

Rhwydwaith Celfyddydau as Addysg De Ddwyrain Cymru

14

NAWR

159

Edau

“Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod ni'n cael ein barnu am yr hyn rydyn ni'n ei ddweud yma. Ysgrifennu yw pob gwers arall ac felly roedd hyn yn wahanol. Mae'n gyfle i feddwl am bethau nad ydyn ni'n meddwl amdanyn nhw fel arfer.”
Disgybl, Ysgol Greadigol Arweiniol

Ysgolion Creadigol Arweiniol

658

Er 2015, mae 658 ysgol yn cymryd rhan yng nghynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Ym mlwyddyn academaidd 2019/20 ymunodd 102 ysgol newydd â'r cynllun drwy'r maes datblygu Ysgol i Ysgol, Datblygu Arweinwyr Creadigol a chynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol Ar-lein.

1,700
Hyd yma, mae dros 1,700 athro wedi profi'r fantais o gydweithio â gweithwyr creadigol i archwilio dulliau creadigol o ddysgu.

850

Cymerodd dros 850 disgybl, o 34 ysgol, ran yng nghynllun yr Ysgolion Creadigol Ar-lein fel rhan o'n hymateb i’r coronafeirws.

Yng nghynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol, mae disgyblion, athrawon a gweithwyr creadigol yn cydweithio i gynnal prosiectau creadigol mewn ymateb i'r problemau sy’n eu hwynebu. Mae'r broses gydweithiol yn creu amgylchedd lle gall disgyblion ofyn cwestiynau sy’n arwain at gymryd rhagor o ran yn y broses o wneud penderfyniadau a chreu cwricwlwm byw.

Gan weithio gydag Asiantau Creadigol, mae ysgolion yn cael mynediad at weithwyr sydd â'r profiad ymarferol o greadigrwydd. Mae gan Asiantau gefndir mewn gwahanol sectorau; y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, y gwyddorau a threftadaeth ac ati. Mae ein holl Asiantau yn rhannu ein nod o gynnal ymarfer newydd ym maes dysgu creadigol.

Gydag arweiniad a chefnogaeth eu Hasiantau, mae ysgolion yn dod o hyd i Ymarferwyr Creadigol i gyd-fynd â'u hanghenion datblygu. Mae'r Ymarferwyr yn datblygu perthynas sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth gyda staff yr ysgol a'u disgyblion.

Uchelgais y cynllun yw newid ysgol gyfan drwy fabwysiadu dull o weithio ar draws cymuned yr ysgol. Mae ysgolion sy'n cymryd rhan yn sôn am athrawon yn newid eu hymarfer, ar ôl gweld effaith creadigrwydd ar eu disgyblion a chynnig rhagor o gyfleoedd creadigol yn eu hysgol.

Roedd ein maes datblygu Ysgol i Ysgol yn ffordd i ysgolion arweiniol ddatblygu dysgu creadigol ar draws yr ysgol a chefnogi ysgolion partner wrth archwilio dysgu creadigol. Yn un o'n meysydd newydd, Datblygu Arweinwyr Creadigol, parwyd Ysgolion Creadigol Arweiniol ag ysgolion newydd i ddatblygu profiad tymor byr i weld posibiliadau dysgu creadigol.

Mae'r cynllun yn ymateb i anghenion ysgolion. Mae’n datblygu dull dysgu cyfunol sy'n defnyddio Arferion Creadigol y Meddwl wedi’u haddasu i anghenion pob ysgol i gefnogi newid ysgol gyfan yn barod am y Cwricwlwm i Gymru yn 2022.

“O ran deall y cysylltiad rhwng y gweithgareddau ymarferol, awyr agored a'r elfen adrodd stori o animeiddio, ymgysylltodd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn fwy dychmygus a chanolbwyntiodd ar agweddau penodol ar y grefft o fyw mewn coedwig yr oeddent yn eu mwynhau”
Ymarferydd Creadigol, Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol

Cynnig y Celfyddydau ac Addysg i Gymru Gyfan

12,156
Ym mlwyddyn academaidd 2019/20, mae 12,156 cyfle wedi'u creu fel y gall disgyblion elwa ar brofi gweithgareddau celfyddydol mynegiannol a diwylliannol.

815

Er 2016, mae 815 ysgol ledled Cymru yn ymgysylltu â'r Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg naill ai drwy fynychu Datblygiad Proffesiynol Parhaus a/neu ymgysylltu â Hyrwyddwyr y Celfyddydau.

722

Er 2015, mae 722 ysgol yn ymweld â digwyddiad celfyddydol neu ddiwylliannol drwy’r gronfa Ewch i Weld/Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf neu’n ffurfio partneriaeth â sefydliadau celfyddydol/diwylliannol drwy grantiau Cydweithio Creadigol.

906
Ym mlwyddyn academaidd 2019/20 (hyd at Fawrth), arweiniodd sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg at 906 digwyddiad gan athrawon, artistiaid a gweithwyr eraill sy'n gweithio ym maes addysg y celfyddydau.

Profi'r Celfyddydau

Mae Cronfa Profi'r Celfyddydau yn rhoi mynediad i blant a phobl ifanc i archwilio ystod o brofiadau diwylliannol. Drwy'r gronfa Ewch i Weld, mae disgyblion yn cael cyfle i brofi digwyddiadau celfyddydol o safon mewn lleoliadau ledled Cymru. Gall ysgolion a sefydliadau celfyddydol hefyd gymryd rhan yn y gronfa Cydweithio Creadigol, sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno prosiectau celfyddydol uchelgeisiol ac arloesol i ddisgyblion.

Mae modd defnyddio arian Ewch i Weld i ymweld â digwyddiadau celfyddydol o safon mewn orielau, theatrau, canolfannau celfyddydau a lleoliadau eraill ledled Cymru. Mae enghreifftiau'n cynnwys teithiau i'r theatr, i gyngherddau a pherfformiadau dawns, ymweliadau ag arddangosfeydd neu weld gweithwyr celfyddydol yn datblygu a chreu eu gwaith. Gellir defnyddio arian i dalu am gost cludiant a thocynnau sy’n cynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc brofi gweithgarwch celfyddydol a diwylliannol y tu allan i’r ysgol. Gall y profiadau sbarduno gwaith yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.

Mae arian Cydweithio Creadigol yn talu am weithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol rhwng ysgolion a sefydliadau celfyddydol sy'n gweithio mewn partneriaeth anghyffredin. Mae'r gronfa wedi cynyddu a gwella cyfleoedd i athrawon a disgyblion weithio gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol/diwylliannol/treftadaeth ar wahanol brosiectau manwl i drafod pynciau fel yr amgylchedd, datblygu cynaliadwy ac amgylchedd amlddiwylliannol ein hysgolion. Ers lansio'r cynnig, mae 107 prosiect Cydweithio Creadigol ledled Cymru.

Cafodd prosiectau Cydweithio Creadigol eu rhewi ym Mawrth oherwydd y coronafeirws, ond cawsant gyfle i ailgychwyn yn ystod Tymor yr Hydref 2020. Mae prosiectau'n addas i’r ffordd newydd o weithio i ddatblygu cydweithio arloesol rhwng ysgolion a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.

Bu'n rhaid atal y gronfa Ewch i Weld oherwydd cau sefydliadau treftadaeth, diwylliannol a chelfyddydol o ganlyniad i’r coronafeirws. Fel rhan o ail gam y rhaglen, rydym ni’n gweithio gydag ysgolion i archwilio pa gyfleoedd a phrofiadau fydd yn eu hannog i fynd allan o'r ystafell ddosbarth eto.

Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

Datblygwyd y Rhwydweithiau Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg i gynyddu a gwella profiadau celfyddydol mewn ysgolion drwy greu cysylltiadau rhwng y sector addysg a'r sector diwydiannau creadigol. Rhwng 2016 a 2020 roedd y 4 Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg yn gweithio gydag ysgolion, y Consortia Addysg Rhanbarthol, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid yn sectorau celfyddydol, addysg, creadigol, diwylliannol a threftadaeth. Cyflwynodd y Rhwydweithiau raglen o:

  • Datblygiad proffesiynol o safon i athrawon, artistiaid, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.
  • Cyfleoedd rhwydweithio i athrawon, artistiaid a sefydliadau o'r sectorau celfyddydol, creadigol, diwylliannol a threftadaeth
  • Hyrwyddwyr y Celfyddydau

Yn y flwyddyn academaidd bresennol canolbwyntiwyd ar gynaliadwyedd wrth i'r rhwydweithiau archwilio model cenedlaethol. Er bod pob rhwydwaith yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau ei ranbarth, roeddent hefyd yn cydweithio i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd ledled Cymru, gan gefnogi athrawon ac artistiaid i fynychu sesiynau ar draws rhanbarthau. Ledled Cymru cafwyd 57 sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus gyda 906 cyfranogydd gan gynnwys 763 digwyddiad gan athrawon.

Treialodd rhaglen Hyrwyddwyr y Celfyddydau fodel o hyfforddi'r hyfforddwr drwy Stiwdio.

Roedd Stiwdio yn gwrs hyfforddi chwe diwrnod i athrawon cynradd ac uwchradd sy'n arbenigo yn y celfyddydau. Mynychodd athrawon Stiwdio i ddatblygu eu gwybodaeth am y celfyddydau mynegiannol gyda Hyrwyddwyr y Celfyddydau. Roedd y cwrs yn rhoi amser i arbrofi gyda dulliau newydd a chyfleoedd i rannu ymarfer da. Yn dilyn y cwrs hyfforddi cyflwynodd athrawon Stiwdio ddiwrnod creadigol i athrawon cynradd ac uwchradd i rannu sgiliau a thechnegau newydd a chodi eu hyder.

Mae'r model hyfforddi wedi rhoi'r hyder i athrawon y Stiwdio arwain sesiynau yn eu hysgol, eu clwstwr ac yn eu rhwydwaith sy’n gofyn am arbenigedd, cyngor a chefnogaeth.

Dyluniwyd Stiwdio gan Hyrwyddwyr y Celfyddydau, gan weithio gydag arbenigwyr. Mae 49 Hyrwyddwr y Celfyddydau ledled Cymru gan gynnwys 30 athro. Maent yn addysgwyr profiadol sy'n eirioli dros y celfyddydau mynegiannol gan gynnig cymorth mentora a datblygu sgiliau. Roedd 63 cysylltiad wedi'u brocera rhwng Hyrwyddwyr y Celfyddydau ac ysgolion ledled Cymru eleni.

“Ar draws y diwrnod creadigol fe wnaethant rannu sgiliau a thechnegau newydd wrth godi hyder athrawon yn y Celfyddydau Mynegiadol.”

Cymorth Plwg

Plwg yw gwefan paru addysg, y celfyddydau a diwylliant sy'n ateb digidol pwrpasol i Gymru. Cafodd ei greu i drawsnewid y ffordd y gall athrawon ac ysgolion gysylltu ag artistiaid, pobl greadigol a sefydliadau diwylliannol.

Mae algorithmau digidol hawdd eu defnyddio yn helpu athrawon ac ymarferwyr creadigol i weld a chwilio am gysylltiadau yn ôl eu celfyddyd, eu harbenigedd, y Cyfnod Allweddol a’r lleoliad.

Gall athrawon ac ymarferwyr creadigol greu'r cyfleoedd sy’n disgrifio'r cynnig a’r angen. Wedyn gall defnyddwyr gysylltu â'i gilydd ar unwaith drwy'r safle. Gall fod yn athro sy'n chwilio am help i greu profiadau dysgu neu weithiwr creadigol gyda gweithdy i blant.

Lansiodd y 4 Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg plwg.cymru yn Rhagfyr 2019, ar ôl cyfnod o dreialu gyda defnyddwyr gan Arts Active ar wefan A2:Cyswllt. Erbyn 31 Awst 2020 roedd 429 defnyddiwr cofrestredig gyda 135 cyfle wedi'u cyhoeddi gan athrawon a phobl greadigol. Yn y flwyddyn academaidd 2019/20 gwnaed 74 cysylltiad a chyfanswm o 259 neges a anfonwyd/cysylltiadau a wnaed rhwng artistiaid ac addysgwyr. Mae'r niferoedd yn adlewyrchu blwyddyn y coronafeirws, ond yn y tri mis ar ôl lansio, cyn cau ysgolion, dangosodd y gweithgarwch ar y safle y rhan y bydd plwg.cymru yn ei chwarae wrth gysylltu addysg, y celfyddydau a diwylliant.

Yn Ebrill 2020 rhoddwyd arian ychwanegol i Blwg i gefnogi datblygiadau pellach a fydd yn parhau i wella profiad y defnyddwyr, gan gefnogi ysgolion i wireddu Cwricwlwm i Gymru 2022.

“Byddwn ni’n bendant yn ei ddefnyddio eto ac rwy'n diweddaru fy ngwybodaeth pryd bynnag y bydd pethau newydd yn codi. Mae'n ffordd dda o weld beth mae pobl eraill yn ei gynnig ac mae hefyd yn rhoi'r posibilrwydd o gysylltu â phobl eraill i fod yn rhan o'r tîm."

“Os gallwch gysylltu person ifanc â'i greadigrwydd, mae'r byd yn agor yn y ffordd fwyaf hudolus”
Paul Collard, Prif Weithredwr, Creadigrwydd, Diwylliant ac Addysg

Straeon am y rhaglen

“I ddechrau, roedd problemau clir gyda’r plant o ran gweithio gydag eraill, ymateb i sefyllfaoedd anghyfarwydd a chyflawni’r dasg. Ond dros amser, mae'r disgyblion wedi dangos gwytnwch a dyfalbarhad i ddatrys pob problem yr oeddent yn ei hwynebu.”
Athro, Ysgol Greadigol Arweiniol

Beth mae’r ysgolion yn ei ddweud

“Am ddiwrnod bendigedig! Ar ôl 20 mlynedd o addysgu, ni allaf gredu nad ydw i wedi bod yn defnyddio'r technegau defnyddiol ac effeithiol hyn. Ni allaf aros i fynd yn ôl i'r ystafell ddosbarth i roi cynnig arnyn nhw. Rwy'n siŵr y bydd y plant wrth eu bodd!”
Athro, digwyddiad gan y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

“Ar ddechrau'r prosiect penderfynwyd dewis sgiliau ffilmio i adeiladu arnynt gan fod yr ysgol wedi nodi eu bod yn feysydd datblygu. Wrth fod y prosiect yn mynd rhagddo, roeddwn i fel yr athro arweiniol yn asesu sgiliau rhyngbersonol, llafaredd a gwrando'r plant yn gyson drwy arsylwadau, lluniau a fideos i weld a oeddent yn dangos unrhyw welliant yn y meysydd. Gwelais mai fy nisgyblion mwyaf agored i niwed sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf.”Athro, Ysgol Greadigol Arweiniol

“Mae wedi dod â'm creadigrwydd yn ôl eto ac mae wedi bod yn hyfryd cynnal prosiect o'r dechrau i'r diwedd. Mae wedi fy helpu i gynllunio ar gyfer pynciau gan ddefnyddio creadigrwydd fel sylfaen.”
Athro, Ysgol Greadigol Arweiniol

“Dysgodd y plant gymaint o fod wedi gweithio gyda'r holl artistiaid gwahanol. Datrys problemau, sgiliau celf, meddwl yn greadigol, cyflwyno eu gwaith a pherfformio. Mae hyn wedi parhau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac mae'r plant yn creu gwaith celf gartref ac yn dyfeisio dawnsfeydd a chaneuon ar yr iard chwarae.”
Athro, Cydweithio Creadigol

“Rwyf wedi dwlu ar fod yn Hyrwyddwr y Celfyddydau ac wedi gwerthfawrogi'n fawr y cyfle i ddatblygu fy ymarfer a rhannu syniadau a phrofiadau gyda Hyrwyddwyr eraill. Rwyf yn hynod ddiolchgar. Rwyf wedi teimlo'n fwy cyffrous am fy swydd ac rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed am werth datblygu'r celfyddydau i gynhyrchu disgyblion cyflawn a hapus.”
Hyrwyddwr y Celfyddydau

“Mae hyn wedi bod yn fuddiol iawn. Rwyf wedi cael fy ailfywiogi ac wedi dod o hyd i'm hangerdd dros gelf eto! Mae’n cysylltu â chynifer o gysylltiadau trawsgwricwlaidd. Mae'n cynnig cyfathrebu, hyder a mynegiant i ddisgyblion.”
Athro, digwyddiad gan y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

“Sesiwn ryngweithiol hyfryd a fydd yn fy ngalluogi i fod yn fwy hyderus wrth gyflwyno sesiynau ystyrlon ac ysbrydoledig a thanio dychymyg plant.”
Athro, digwyddiad gan y Rhwydwaith Rhanbarthol i’r Celfyddydau ac Addysg

“Yn ystod trafodaethau am y gweithgareddau blaenorol, roedd rhai disgyblion yn awyddus i fyfyrio gyda geirfa fwy llafar, yn enwedig gyda themâu a phrosesau sy’n ailddigwydd.”
Athro, Ysgol Greadigol Arweiniol

“I ddechrau, roedd problemau clir gyda’r plant o ran gweithio gydag eraill, ymateb i sefyllfaoedd anghyfarwydd a chyflawni’r dasg. Ond dros amser, mae'r disgyblion wedi dangos gwytnwch a dyfalbarhad i ddatrys pob problem yr oeddent yn ei hwynebu.”
Athro, Ysgol Greadigol Arweiniol

“Roedd y staff yn gallu rhannu, lledaenu a gweithredu ymarfer da o ddysgu creadigol, ac roeddynt wedi'u gwella gan gyfraniad yr ymarferwyr creadigol.”
Teacher, Lead Creative School Scheme

“Gweithiodd yr ymarferwyr a'r athrawon gyda'i gilydd, pob un yn edrych ar y wers mewn ffordd ychydig yn wahanol, gan ddod at ei gilydd i ddarparu gwers llawn i'r plant a oedd yn caniatáu iddynt fynegi eu hunain yn annibynnol wrth gyrraedd meini prawf penodol y cytunwyd arnynt gan yr oedolion a’r plant.”
Athro, Ysgol Greadigol Arweiniol

“Y brif effaith ar fy addysgu yn dilyn y cydweithio â'r Ymarferwyr Creadigol yw fy mod yn fwy parod i ddal yr awenau yn llacach wrth gyflwyno gweithgareddau datrys problemau i'r dosbarth. ”
Athro, Ysgol Greadigol Arweiniol

“Mae wedi bod yn brosiect heriol ond gwerth chweil i bawb sy'n gysylltiedig. Roedd y briff yn gyffrous ond braidd yn frawychus ac rwy'n credu ei fod yn dipyn o naid i’r tywyllwch i mi a'r athrawon.”
Ymarferydd Creadigol, Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol

Parhau â dysgu:
ymateb i’r coronafeirws

2429
Edrychwyd ar y dosbarthiadau meistr yn ystod y coronafeirws 2,429 o weithiau

800

Roedd 800 disgybl a 72 athro o 34 ysgol yn cymryd rhan yng nghynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol ar-lein yn ystod y coronafeirws. Cydweithiodd 35 gweithiwr creadigol â'r ysgolion yma.

119

mynychiad i ddosbarthiadau meistr byw'r celfyddydau mynegiannol

1412
Edrychwyd ar y casgliad rhithwir Ewch i Weld ar y parth dysgu creadigol yn ystod y coronafeirws 1,412 o weithiau

“Drwy Gynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi'i ailddychmygu ar-lein, cydweithiodd athrawon, disgyblion a gweithwyr creadigol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i gefnogi creadigrwydd a lles disgyblion. Roedd y prosiect ar-lein am 8 wythnos i alluogi ysgolion i ganolbwyntio ar eu problemau a'u blaenoriaethau. Heriwyd gweithwyr creadigol i drosglwyddo eu hymarfer i lwyfannau ar-lein i feithrin arferion y meddwl creadigol."

Bu'n rhaid ailgynllunio cam nesaf y rhaglen i ymateb i'r coronafeirws. Fel rhaglen greadigol, roeddem ni’n gallu ymateb yn gyflym ac yn ddychmygus i'r problemau a datblygu ffyrdd o gyflwyno ar-lein.

Roedd ein gwaith yn cynnwys comisiynu Dosbarthiadau Meistr yn y Celfyddydau Mynegiannol mewn gwahanol gelfyddydau gan gynnwys; animeiddio, bîtbocsio, dawns, ffilm, cynhyrchu sain ddigidol, ffotograffiaeth, offerynnau taro, podlediadau, cynllunio theatr a’r celfyddydau gweledol. Cafodd 10 dosbarth Meistr a recordiwyd ymlaen llaw a 9 sesiwn fyw (ar gyfer disgyblion ôl-16) eu rhoi ar y Parth Dysgu Creadigol ar Hwb. Roedd yn torri cwys newydd i'r rhaglen dysgu creadigol.

Curadwyd hefyd gasgliad rhithwir Ewch i Weld a oedd yn cludo’n rhithiol athrawon a disgyblion i berfformiadau theatr, arddangosfeydd, teithiau amgueddfa, ymweliadau y tu ôl i'r llenni a rhagor. Roedd yn dod â llawenydd creadigrwydd i bawb a chynnig profiadau diwylliannol newydd gartref ac yn yr ysgol. Roedd yn ddull newydd a llwyddiannus o gynnig Ewch i Weld.

“Rydym ni am i bobl ifanc fod yn fwy creadigol, i fod yn feddylwyr beirniadol, i allu gweithio gydag eraill. Nid fi'n unig sy'n dweud hynny, mae Fforwm Economaidd y Byd yn dweud hynny, mae'r OECD yn nodi bod UNESCO yn dweud bod cyflogwyr y byd yn dweud hynny.”
Yr Athro Bill Lucas, Canolfan Dysgu'r Byd Go Iawn, Prifysgol Caerwynt

Y flwyddyn i ddod

Yn Chwefror 2020, roeddem ni, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn falch o gyhoeddi ail gam y rhaglen. Un o'r prif resymau dros gael ail gam oedd cydnabod pwysigrwydd y rhaglen i ymbaratoi at ddyfodiad y cwricwlwm newydd. Mae 2 flynedd arall o arian i ddysgu creadigol drwy'r celfyddydau yn ein galluogi i:

  • cefnogi rhagor o ysgolion i ddatblygu dulliau creadigol ac adeiladu ar arbenigedd yr ysgolion sydd eisoes yn Ysgolion Creadigol Arweiniol
  • darparu cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Parhaus i athrawon ac artistiaid
  • cefnogi ysgolion i archwilio’n greadigol ddatblygu a chynllunio’r cwricwlwm
  • cefnogi datblygiad sgiliau creadigol ymhlith ein disgyblion
  • ehangu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio profiadau celfyddydol o safon

Byddwn ni hefyd yn cefnogi’r Rhwydwaith Addysgeg Cenedlaethol gan ddefnyddio'r model dysgu creadigol sy’n sail i'r Ysgolion Creadigol Arweiniol – Arferion Creadigol y Meddwl a’r Ystafell Ddosbarth Ragorol. Mae adborth gan ysgolion yn profi’r trawsnewid sy’n digwydd sy'n gyson â'r cwricwlwm newydd.

“Un o'r prif resymau dros gael ail gam oedd cydnabod pwysigrwydd y rhaglen i ymbaratoi at ddyfodiad y cwricwlwm newydd.”

Yr Academi Genedlaethol i Arweinyddiaeth Addysgol
Rydym ni wedi sicrhau arian sy'n ein galluogi i gael 12 uwch arweinydd o bob rhan o Gymru a'u cefnogi i ddeall swyddogaeth creadigrwydd yn y cwricwlwm newydd ac i annog arloesedd drwy godi hyder ymarferwyr i fentro a datblygu gwytnwch. Mae'r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol yn defnyddio ein profiad o hwyluso dysgu proffesiynol yn yr Ysgolion Creadigol Arweiniol a'n dealltwriaeth o sut y gall arweinwyr ysgolion annog arloesedd.

Datblygu rhyngwladol
Byddwn ni’n parhau i rannu'r gwaith arloesol a ddatblygwyd yng Nghymru gyda phartneriaid ledled y byd, cynnal ymweliadau, mynychu digwyddiadau a chynadleddau a rhannu gwaith drwy wahanol lwyfannau.

Parth Dysgu Creadigol
Byddwn ni’n datblygu strategaeth ddwy flynedd i reoli a datblygu cynnwys yn effeithiol ar gyfer y Parth Dysgu Creadigol ar Hwb. Mae gan y parth swyddogaeth eang i gefnogi ysgolion i gyfoethogi eu dysgu drwy ddulliau creadigol.

Gyrfaoedd
Byddwn ni’n gweithio gyda CCSkills i ddatblygu adnoddau sy'n amlygu gyrfaoedd portffolio yn y celfyddydau gweledol a darparu gwybodaeth am yrfaoedd i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 ymlaen gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r bylchau yn y wybodaeth sydd ar gael am swyddi lefel mynediad yn y sector creadigol.