“Mae llwyddiannau'r rhaglen bum mlynedd wreiddiol yn sylweddol. Wedi'i sefydlu ar bartneriaeth gaith agos rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Dysgu creadigol trwy'r celfyddydau wedi trawsnewid dysgu ac addysgu yng Nghymru trwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg.”
Rwy’n falch o gyflwyno adroddiad 2019/20 Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau, sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gyfnod ymestyn y rhaglen a ddechreuodd ym Mawrth.
Dros bum mlynedd y rhaglen bu ei llwyddiannau’n sylweddol. Mae wedi’i seilio ar bartneriaeth agos rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae wedi trawsnewid dysgu yng Nghymru drwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth wraidd addysg. Gyda'i dulliau arloesol, mae'r rhaglen wedi denu cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol, gyda 1,240 ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen. Dyna 83% o ysgolion Cymru.
Yn Awst 2020, cynigiwyd dros 134,000 cyfle i ddisgyblion gymryd rhan a thua 4,600 cyfle i athrawon wella eu dysgu proffesiynol. Mae'r ffigyrau yn dangos pwysigrwydd y rhaglen.
Mae’r pandemig wedi effeithio ar bawb ac mae ein hysgolion wedi codi i ateb yr her. Mae arloesedd y rhaglen wedi ein helpu i addasu fynd ar-lein a pharhau â dysgu felly. Mae’n codi calon i weld dosbarthiadau meistr yr Ysgolion Creadigol Arweiniol a’r Celfyddydau Mynegiannol ar-lein ac ymweliadau rhithiol Ewch i Weld â theatrau, orielau, amgueddfeydd a lleoliadau celfyddydol eraill.
Wrth wynebu’r dyfodol, hoffwn ailadrodd y cyfraniad pwysig y mae dysgu creadigol yn ei wneud i gefnogi ysgolion ac athrawon i ymbaratoi at y Cwricwlwm newydd i Gymru, 2022.
Rydym ni wedi gweld sut mae Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cefnogi newid ysgol gyfan, gan fabwysiadu ffordd o weithio ar draws cymuned yr ysgol. Mae partneriaethau creadigol yn gymorth i wella cyrhaeddiad disgyblion ac ailgynnau hyder athrawon.
Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi creadigrwydd wrth ei wraidd ac yn pennu’r nod o ddatblygu dinasyddion cyflawn sy'n cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd a gwaith. Mae creadigrwydd yn cefnogi hyn drwy helpu pobl ifanc, o bob cefndir, i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau.
Bydd effaith dysgu creadigol wrth wreiddio creadigrwydd yn dod â manteision parhaol i'n disgyblion ar draws y cwricwlwm newydd..
— Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg